jump to content
Angen Cymorth? Ffoniwch ni ar: 01639 634049 Ebostiwch ni: ebyst@serolprint.cymru EN

Amdanom ni

Mae Serol Print (a oedd gynt yn masnachu fel Gwasg Morgannwg) wedi bod yn masnachu fel cwmni argraffu a dylunio yng Nghastell-nedd, De Cymru ers dros 30 mlynedd. Maent yn arbenigo mewn argraffu digidol a litho gyda prisiau cystadleuol ac maent yn ymfalchïo yn eu hymrwymiad i'w cwsmeriaid wrth gyflwyno gwaith argraffu o ansawdd uchel ac ar amser.

Mae Serol Print (stellar yn Saesneg) wedi ymrwymo i wella ansawdd eu cynhyrchion ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel rhan o Menter Cyfyngedig, mae wedi buddsoddi mewn Peiriant Argraffu Digidol Canon a Peiriant argraffu labeli New Solutions NS1. Mae'r cyfuniad o  Wasg Morgannwg  a Menter bellach wedi rhoi ystod ehangach o gynhyrchion i Serol i ehangu eu gwasanaeth i gwsmeriaid.

Fel cwmni sydd yn seiliedig yng Nghymru, gall Serol Print ddarparu eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg a helpu sefydliadau preifat a'r 3ydd sector â'u deunydd marchnata dwyieithog, gan gynnwys cyfieithu gwefanau.

Gwasanaeth Cyflym

Pecynnu Labeli Plaen

Cyflenwi Cyflym