jump to content
Angen Cymorth? Ffoniwch ni ar: 01639 634049 Ebostiwch ni: ebyst@serolprint.cymru EN

Polisi Amgylcheddol

Mae Menter Cyfyngedig sy’n masnachu fel Serol Print yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o safon mewn ffordd sy'n sicrhau gweithle diogel ac iach i'n gweithwyr a lleihau ein heffaith bosibl ar yr amgylchedd. Byddwn yn gweithredu i gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a byddwn yn ymdrechu i ddefnyddio arferion llygredd ac arferion gorau ym mhob peth a wnawn.

 

Ein Polisi felly yw:

  • integreiddio'r ystyriaeth o bryderon ac effeithiau amgylcheddol i'n penderfyniadau a'n gweithgareddau,
  • lleihau ein gwastraff ac yna ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint ohono ag sy'n bosibl.
  • lleihau'r defnydd o ynni a dŵr yn ein hadeiladau a'n prosesau er mwyn gwarchod cyflenwadau a lleihau'r defnydd o adnoddau naturiol.
  • Cyn belled ag sy'n bosibl, prynu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gwneud y lleiaf o ddifrod i'r amgylchedd.
  • hyfforddi, addysgu a hysbysu ein gweithwyr am faterion amgylcheddol a allai effeithio ar eu gwaith,
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith ein gweithwyr a'u hannog i weithio mewn modd sy'n gyfrifol yn amgylcheddol,
  • cyfathrebu ein hymrwymiad amgylcheddol i gleientiaid, cwsmeriaid a'r cyhoedd a'u hannog i'w gefnogi
  • lle bo angen yn ôl deddfwriaeth neu lle mae peryglon iechyd, diogelwch neu amgylcheddol sylweddol yn bodoli, datblygu a chynnal rhaglenni ymateb brys priodol.

Ionawr 2019

Gwasanaeth Cyflym

Pecynnu Labeli Plaen

Cyflenwi Cyflym