Yma i'ch helpu
Gwaden (Bleed)
Mae gwaden yn ardal sydd wedi'i ychwanegu at ymyl eich gwaith celf sy'n cynnwys unrhyw flociau o ddylunio lliw neu gefndir sy'n cyrraedd ymyl y dudalen.
Mae angen gwaden ar waith celf pan fydd delweddau, lliw neu destun yn cyrraedd ymyl eich tudalen. I greu gwaden,rhaid ymestyn eich delwedd, lliw neu destun 3mm dros ymyl y dudalen. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r gosodiadau gwaden yn eich meddalwedd dylunio i ychwanegu gwaden yn awtomatig i'ch PDF. Wrth greu PDF ar gyfer argraffu, sicrhewch fod y PDF yn ddigon mawr i ymgorffori'r gwaden.
Os ydych chi'n cyflenwi gwaith celf heb waden, byddwn yn ei ehangu'n awtomatig i ddarparu ar gyfer hyn. Os oes gennych destun sy’n agos at yr ymyl, gellir ei dorri'n ffracsiynol unwaith y bydd y ffeil wedi'i ehangu. Cofiwch nad ydym yn gwirio am wrthrychau sy'n rhy agos at yr ymyl.