jump to content
WhatsApp: 07493035170 Angen Cymorth? Ffoniwch ni ar: 01639 634049 Ebostiwch ni: ebyst@serolprint.cymru EN

CARDIAU DOLIG

04/12/2025

Mae Dolig ar ei ffordd!
Oes angen nifer bach o gardiau Nadolig arnoch ar gyfer eich sefydliad neu fusnes?
Yn Serol Print, rydym yn creu cardiau celf a chardiau cyfarch o ansawdd uchel ar gyfer artistiaid a mwy drwy gydol y flwyddyn.
Mae cardiau Nadolig wedi eu teilwra yn arbennig o boblogaidd gyda chwsmeriaid, gan eu bod yn dodi eich brand yn amlwg yn ystod yr amser Nadoligaidd hwn.
Gallwch ddarparu eich dyluniad eich hun, neu mae ein tîm graffeg ar gael i drawsnewid eich syniadau yn ddelweddau trawiadol yn ein stiwdio ddylunio.
Os yw cyllid yn ofid, rydym yn cadw detholiad o bapurau ysgafn a thrwm mewn stoc.
Y maint cerdyn mwyaf poblogaidd yw A6, rydym bob amser yn cynnal cyflenwad da o amlenni A6. Fodd bynnag, gellir archebu meintiau arbennig — fel sgwâr — yn gyflym.
I drafod eich gofynion, mae croeso i chi e-bostio ein tîm neu ffonio ni am sgwrs.

Gwasanaeth Cyflym

Pecynnu Labeli Plaen

Cyflenwi Cyflym