CARDIAU DOLIG
04/12/2025
Mae Dolig ar ei ffordd!
Oes angen nifer bach o gardiau Nadolig arnoch ar gyfer eich sefydliad neu fusnes?
Yn Serol Print, rydym yn creu cardiau celf a chardiau cyfarch o ansawdd uchel ar gyfer artistiaid a mwy drwy gydol y flwyddyn.
Mae cardiau Nadolig wedi eu teilwra yn arbennig o boblogaidd gyda chwsmeriaid, gan eu bod yn dodi eich brand yn amlwg yn ystod yr amser Nadoligaidd hwn.
![]() |
![]() |
Gallwch ddarparu eich dyluniad eich hun, neu mae ein tîm graffeg ar gael i drawsnewid eich syniadau yn ddelweddau trawiadol yn ein stiwdio ddylunio.
Os yw cyllid yn ofid, rydym yn cadw detholiad o bapurau ysgafn a thrwm mewn stoc.
Y maint cerdyn mwyaf poblogaidd yw A6, rydym bob amser yn cynnal cyflenwad da o amlenni A6. Fodd bynnag, gellir archebu meintiau arbennig — fel sgwâr — yn gyflym.
I drafod eich gofynion, mae croeso i chi e-bostio ein tîm neu ffonio ni am sgwrs.

